Cyfreithwyr Jennings
Partneriaeth Ifanc Blaengar
Sefydlwyd Jennings dros gan mlynedd yn ôl a thyfodd yn un o gwmniau cyfreithiol mwyaf blaenllaw Llanelli. Rydym wedi adeiladu enw da am wasanaeth personol o ansawdd uchel ar hyd a lled Gorllewin Cymru ac Abertawe.
Mae gennym bartneriaeth ifanc, blaengar ac mae’r pedwar prif bartner wedi cymhwyso ers dros ddeng mlynedd yn eu meysydd arbenigol eu hunain.
Gallwn gynnig ymgynghoriad trwy gyfrwng y Gymraeg os dymunwch hynny.
Cyfweliad Cyntaf am ddim
Lleolir Jennings yn Heol Goring, ac mae gennym faes parcio mawr yng nghefn yr adeilad sydd yn galluogi mynediad hawdd i’n swyddfa.
Rydym yn cynnig ymgynghoriad cychwynnol hyd at hanner awr am ddim. Beth bynnag yw eich problem, mae croeso i chi ein ffonio ni i wneud apwyntiad i weld ein harbenigwr a thrafod eich materion er mwyn cael heddwch meddwl llwyr, heb ymrwymiad.
|